Thumbnail
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol
Resource ID
cd738f97-ece0-4596-9408-383bb6b7fae0
Teitl
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol
Dyddiad
Awst 27, 2024, canol nos, Publication Date
Crynodeb
Mae'r set ddata hon bellach yn sefydlog ac ni fydd yn cael ei diweddaru. Fodd bynnag, dylid parhau i ddefnyddio’r set ddata hon ar gyfer gwybodaeth am drwyddedau a oedd yn hanesyddol cyn dod o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Dylid defnyddio'r set ddata hon ar y cyd â set ddata pwyntiau safleoedd tirlenwi hanesyddol, sef y set ddata fwyaf cynhwysfawr ar gyfer safleoedd tirlenwi sydd wedi dod i ben, sydd wedi'u hildio neu sydd wedi’u dirymu yn ddiweddar. Set ddata ofodol (polygon) yw set ddata safleoedd tirlenwi hanesyddol. Safleoedd tirlenwi yw’r rhain a dynnwyd oddi ar y safleoedd tirlenwi awdurdodedig pan fo statws y drwydded gwastraff yn newid i un o’r canlynol: – Trwydded wedi dod i ben: Roedd terfyn amser ar rai trwyddedau a roddwyd o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 a daethant i ben ar y dyddiad a nodir yn y drwydded – Trwydded wedi'i dirymu: Pan fo’r drwydded wedi’i dirymu’n llwyr ac nad yw bellach mewn grym – Drwydded wedi'i hildio: Mae’r gweithredwr wedi llwyddo i ildio'r drwydded, nad yw bellach mewn grym O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch yr holl geisiadau a gânt i ddatblygu tir o fewn 250 metr i safleoedd tirlenwi (gan gynnwys unrhyw dir sydd wedi cael ei ddefnyddio fel safle tirlenwi o fewn y 30 mlynedd diwethaf neu sy’n debygol o gael ei ddefnyddio fel un yn y dyfodol agos). Crëwyd y set ddata safleoedd tirlenwi hanesyddol i helpu i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol i awdurdodau cynllunio lleol drwy ddarparu gwybodaeth am y risgiau sy’n cael eu peri gan safleoedd tirlenwi i unrhyw waith datblygu o fewn 250m. Y data yw’r set ddata genedlaethol fwyaf cynhwysfawr a chyson ar gyfer safleoedd tirlenwi hanesyddol ac mae’n diffinio lleoliad safleoedd tirlenwi hanesyddol (sydd wedi cau) hysbys, ac yn darparu priodoleddau penodol ar eu cyfer, hy safleoedd lle nad oes trwydded atal a rheoli llygredd na thrwydded rheoli gwastraff mewn grym ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys safleoedd a oedd yn bodoli cyn y gyfundrefn trwyddedu gwastraff a safleoedd sydd wedi’u trwyddedu yn y gorffennol ond bod y drwydded hon wedi’i dirymu, wedi peidio â bodoli neu wedi’i hildio a bod tystysgrif gwblhau wedi’i chyhoeddi. RHYBUDD AM YR WYBODAETH: Cyn 1996, roedd yr holl ddata safleoedd tirlenwi yn cael eu rheoli a’u coladu gan awdurdodau lleol. Oherwydd hyn, ni allwn warantu ansawdd a chywirdeb cofnodion safleoedd tirlenwi hanesyddol unigol hyd at y dyddiad hwn. Datganiad priodoli Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Rhifyn
--
Responsible
superuser
Pwynt cyswllt
User
superuser@email.com
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwyddedd Amodol CNC
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 175803.6955
  • x1: 353740.3426
  • y0: 165552.770300001
  • y1: 393719.5582
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Amgylchedd
Rhanbarthau
Global